Pobun

Ciw-restr ar gyfer Gweithredoedd Da

(Y Criwr) Pell ac agos yma dewch,
 
(Mamon) Ni thâl iti ddim oll daflu breichiau na rhincian dannedd, cei fynd i'r pridd yn noethlymyn groen, yn union fel y daethost o groth dy fam.
(0, 10) 861 Pobun!
 
(0, 10) 863 Pobun, oni'm clywi?
(Pobun) {O'r neilltu.}
 
(Pobun) O, cymer gymaint â bynny o drugaredd arnaf; gad nad fy mam fo hi!]
(0, 10) 870 Pobun!
(Pobun) [Boed y neb y bo, nid oes i mi ddim egwyl at helynt na diflastod y byd bellach.]
 
(Pobun) [Boed y neb y bo, nid oes i mi ddim egwyl at helynt na diflastod y byd bellach.]
(0, 10) 872 Pobun, oni'm clywi?
(Pobun) Benyw glaf yw hi; ni waeth gennyf i—edryched ati ei hun.
 
(Pobun) Benyw glaf yw hi; ni waeth gennyf i—edryched ati ei hun.
(0, 10) 874 Pobun, d'eiddo di ydwyf; erot ti yr wyf yn gorwedd yma.
(Pobun) Pa fodd y gall hynny fod?
 
(0, 10) 877 Gwel, dy holl weithredoedd da wyf i.
(Pobun) [Na'm gwatwar i, yr wyf ar farw.]
 
(Pobun) [Na'm gwatwar i, yr wyf ar farw.]
(0, 10) 879 [Dyred ynteu ychydig yn nes ataf.]
(Pobun) [Ni wnawn i mo hynny o'm bodd.]
 
(Pobun) Ni fynnwn eto weled fy ngweithredoedd, [ni byddai edrych arnynt wrth fy modd.]
(0, 10) 882 [Yr wyf yn wan iawn a baich mawr arnaf, am na feddyliaist ti erioed amdanaf.]
(Pobun) [Nid rhaid wrth wendid arall yma, ac arnaf innau ddigon o ing ac artaith eisoes.]
 
(Pobun) [Nid rhaid wrth wendid arall yma, ac arnaf innau ddigon o ing ac artaith eisoes.]
(0, 10) 884 Bydd arnat angen amdanaf i.
(0, 10) 885 Y mae'r ffordd yn hir echryslon, a thithau heb neb i'th ganlyn.
(Pobun) Er hynny, ar fy mhen fy hun y bydd raid i mi fyned.
 
(Pobun) Er hynny, ar fy mhen fy hun y bydd raid i mi fyned.
(0, 10) 887 Na, mynnaf ddyfod i'th ganlyn, gan mai d'eiddo di wyf.
 
(0, 10) 889 Oni bai dydi, gallwn ymsymud yn rhwydd, a chydgerddwn â thi lle'r elit.
(Pobun) {Gan fynd ati.}
 
(0, 10) 894 Pobun, clywais dy wysio ger bron dy waredwr i'r farn oruchaf.
(0, 10) 895 [Oni fynni dy golli, na ddos heb neb onid ti dy hun i'r daith hon, meddaf i ti.]
(Pobun) A fynni di ddyfod gyda mi?
 
(Pobun) A fynni di ddyfod gyda mi?
(0, 10) 897 A fynnaf i ddyfod gyda thi i'r daith?
(0, 10) 898 A wyt ti'n gofyn hynny i mi, Pobun?
(Pobun) {Gan syllu yn ei llygaid.}
 
(Pobun) Wrth dy weled yn edrych arnaf yn hiraethus, tebyg gennyf na bu yn f'einioes i na chyfaill na chariad, na gwraig na gŵr a edrychai arnaf fel yna!
(0, 10) 901 [O, Pobun, dy fod ti ar awr mor hwyr yn troi at fy llygaid a'm genau!]
(Pobun) [Gwelw a threuliedig yw dy wedd, ac eto 'rwy'n meddwl ei bod yn llawn tegwch; po fwyaf yr edrychwyf arnat, mwyaf y gwae yn fy nghalon, ond bod hwnnw'n gymysg â rhyw dynerwch, fel na wn i ddim pa beth a wnaf.
 
(Pobun) Eto, gwn na ellir hynny mwy, ac nad yw bellach onid megis breuddwyd.]
(0, 10) 905 Pe buasit ti yn deall gynt nad wyf i lawn mor ddiolwg, buasit wedi aros llawer gyda mi [ymhell o'r byd a phob rhyw ddrwg chwarae!
(0, 10) 906 Tyred yn nes,—gwan yw fy llais i—aethit at y tlodion megis brawd yn gymwys, gyda chydymdeimlad a gofid, a buasit wedi dechrau eu caru hwy, a'th galon wedi.
(0, 10) 907 llawenhau, a minnau, sy mor fethiantus,] buaswn innau, drwy fod yn eglur o flaen dy feddwl, megis llestr dwyfol i ti, megis cwpan a gras yn llifo drosodd ohono i'th wefusau di.
(Pobun) [Ac nid adnabûm innau monot, mor ddall oedd fy ngolwg!
 
(Pobun) Gwae ni! pa fath greaduriaid ydym ni gan fod y fath bethau'n digwydd i ni!]
(0, 10) 910 [Cwpan oeddwn i a safai o'th flaen, a lanwyd hyd yr ymyl gan y nefoedd ei hun.
(0, 10) 911 Nid oedd yn y cwpan hwnnw ddim daearol, am hynny, dibwys oeddwn yn dy olwg di!]
(Pobun) [O! pe gallwn dynnu'r ddau lygad allan, ni byddai'r tywyllwch mor arswydus i mi ag yw'r gofid chwerw a dynnodd fy llygaid ffeilsion arnaf ar hyd foes.]
 
(Pobun) [O! pe gallwn dynnu'r ddau lygad allan, ni byddai'r tywyllwch mor arswydus i mi ag yw'r gofid chwerw a dynnodd fy llygaid ffeilsion arnaf ar hyd foes.]
(0, 10) 913 [O, gwae! bellach bydd syched byth ar dy wefus!
(0, 10) 914 Ni fynnaist yfed ond o bethau'r byd, ac am hynny, cipiwyd y cwpan oddi wrthyt.]
(Pobun) [Y mae syched poeth eisoes yn rhedeg drwy fy holl wythiennau, a gwanc ymhob synnwyr!
 
(Pobun) Dyna gyflog fy mywyd i!]
(0, 10) 917 [Dyna'r edifeirwch chwerw, llosg, y gofid cudd.
(0, 10) 918 O, pe gallent hwy lunio dy galon di o'r newydd, mor ddedwydd fyddai hynny i ni'n dau!]
(Pobun) {Gan ei fwrw ei hun ar lawr.}
 
(0, 10) 931 O na bai i'r edifeirwch tanbaid hwn fy rhyddhau oddi wrth y llawr!
(0, 10) 932 [Gwae na allaf sefyll ar fy nhraed wrth ei ystlys ef yrawr hon.
 
(0, 10) 934 Mor druan, gwan a chlaf wyf i!]
(Pobun) [Am bopeth fe geir tâl, yn wir!
 
(Pobun) Dod gymorth i mi roi cyfrif ger ei fron Ef sydd Arglwydd ar Angau a Bywyd, a Brenin yn dragywydd, ac onid e colledig fyddaf byth!]
(0, 10) 939 [O, Pobun!]
(Pobun) [Na'm gad yn ddigyngor.]
 
(Pobun) [Na'm gad yn ddigyngor.]
(0, 10) 941 Y mae i mi chwaer, Ffydd y gelwir hi.
(0, 10) 942 Pe gadawai hi erfyn arni ddyfod i'th ganlyn ar dy ffordd, a sefyll gyda thi ger bron brawdle Duw!
(Pobun) Galw arni heb oedi, y mae'r amser yn ehedeg ymaith,
 
(Pobun) Galw arni heb oedi, y mae'r amser yn ehedeg ymaith,
(0, 10) 944 [Efallai mai troi oddi wrthyt a wnai, a'th ado i fynd heb gysur i'th fedd, ond pe gwyddit ti ba fodd i lefaru wrthi, fe roddai hithau ei chynorthwy iti.]
(Pobun) [Pe bai dyn heb dafod, fe'i gwnai ing ac angen yn hyawdl.]
 
(Pobun) [Pe bai dyn heb dafod, fe'i gwnai ing ac angen yn hyawdl.]
(0, 10) 947 [Nid rhaid galw'n groch, teimlaf fod y chwaer yn dyfod!]
(0, 10) 948 F'annwyl chwaer, y mae'r gŵr hwn mewn cyfyngder tost, a sefi di gydag ef pan drengo?
(0, 10) 949 Nid oes i mi mo'r nerth, rhy wan wyf, ni allaf ddadlau drosto.
(Ffydd) {Wrth Bobun.}
 
(Ffydd) Weithian, bydd di lawen dy fryd; bellach cryfhaodd dy weithredoedd, rhydd ydynt o'u holl gŵyn, a cherddant rhagddynt â chamau sicr.
(0, 13) 1018 Pobun, wele fi, dy gyfeilles; bendithiaf di yn fy meddwl; rhyddheaist fi o'm gofid, ac yn awr, canlynaf di lle'r elych.
(Pobun) [O, fy ngweithredoedd, wrth glywed eich llais, ni allwn nad wylwn innau o lawenydd.]
 
(Diawl) Na mi â thithau, af y ffordd acw.
(0, 13) 1050 Nid oes yma ffordd i ti.
(Diawl) [{Gan wasgu ei glustiau.}
 
(Diawl) 'Tramgwydd!]
(0, 13) 1055 [{Gan sefyll eto o'i flaen.}
(0, 13) 1056 Dim ffordd!]
(Diawl) Dim ffordd! dim ffordd! onid oes yma ffordd?
 
(Diawl) A fo deg, ffyddlon a deallus, fe'i meistrolir gan gyfrwystra a thwyll.]
(0, 14) 1117 [Oni theimlais i fod Pobun yn dyfod?
(0, 14) 1118 Ie, ef ydyw, a daw yma.
(0, 14) 1119 Yr oedd rhywbeth yn dywedyd wrthyf mai ef ydoedd.
(0, 14) 1120 Fe allodd fodloni ei Arglwydd, 'rwy'n teimlo drwy f'aelodau oll y nerth at ehedeg fry!]
(Pobun) Weithion, rhowch i mi yn ffyddlon eich dwylaw, cefais y cymun Sanct.
 
(Pobun) Doded pawb ei law ar y ffon hon a chanlyned fi i'm bedd.
(0, 14) 1126 Ni thynnaf i mo'm llaw oddi ar y ffon cyn bod y daith ar ben.
(Ffydd) Mi safaf gyda thi megis y sefais gynt gyda Iwdas Maccabaeus.
 
(Ffydd) Safaf yn d'ymyl a gwyliaf di.
(0, 14) 1135 A deuaf innau gyda thi, Pobun.
(Pobun) O Arglwydd Waredwr, aros gyda mi, arnat y galwaf am drugaredd.
 
(0, 14) 1138 Arglwydd, boed dawel ein diwedd ni, i'th lawenydd di yr awn i mewn.